# @sgorio on YouTube

- **Type:** Video
- **Original URL:** https://youtube.com/watch?v=jEyjOHrN6R0
- **Gondola URL:** https://gondola.cc/posts/27444518-sgorio-youtube
- **Thumbnail:** https://img.gondola.cc/tr:w-,h-,fo-auto/postThumbnails/deee90238f.jpg
- **Posted:** 2025-03-22T10:06:01.000+00:00

## Caption

PÊL-DROED BYW: Hwlffordd v Pen-y-bont | JD Cymru Premier | Sylwebaeth Gymraeg ⚽

Rhagolwg: Gyda’r bencampwriaeth wedi ei chadarnhau, mae’r sylw bellach yn troi tuag at y ras am yr ail safle, a byddai buddugoliaeth i Pen-y-bont nos Wener yn gam enfawr at hawlio’r safle hwnnw. 

Mae bechgyn Bryntirion yn dechrau’r penwythnos chwe phwynt uwchben Hwlffordd, a byddai triphwynt nos Wener yn eu gadael naw pwynt uwchben yr Adar Gleision gyda dim ond tair gêm ar ôl i’w chwarae.

Gemau sy’n weddill yn y ras am yr ail safle: 
Pen-y-bont – Hwl (oc), YSN (c), Cfon (c), Bala (oc) 
Hwlffordd – Pen (c), Cfon (c), Met (oc), YSN (c) 

Gan i Gymru golli un safle’n Ewrop, dyw gorffen yn 2il ddim yn gwarantu lle yng Nghyngres Europa eleni, ond pe bae’r Seintiau Newydd yn curo Cwpan Cymru yna fe fyddai’r tîm sy’n 2il yn cipio lle yn Ewrop gan fod y Seintiau eisoes wedi cadarnhau eu lle fel pencampwyr y gynghrair. 

Mae Pen-y-bont wedi colli eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref, tra bod gan Hwlffordd record gartref wych gan golli dim ond un o’u 16 gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair (Hwl 0-1 YSN) ac ennill eu pedair gêm ddiwethaf ar Ddôl-y-Bont. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 0.7 gôl y gêm), a gyda 15 llechen lân yn barod y tymor hwn fe all Zac Jones sicrhau’r Faneg Aur dros y penwythnos. 

Mae Pen-y-bont ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd gan ennill pedair o rheiny o un gôl i ddim, gyda’r ddwy gêm arall yn gorffen yn ddi-sgôr, ac felly dyw’r Adar Gleision heb sgorio yn eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont.

#LiveFootball #HaverfordwestCounty #Penybont #JDCymruPremier

## Stats

- **Views:** 725
- **Likes:** 19
- **Shares:** 0
- **Comments:** 0

## Tags

jdcymrupremier, livefootball, penybont, haverfordwestcounty

---
Copyright (c) Gondola