PÊL-DROED BYW: Aberystwyth v Y Drenewydd | Sylwebaeth Gymraeg - C/G 12.15 ⚽️
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.
Mae Aberystwyth mewn sefyllfa peryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond saith gêm ar ôl i’w chwarae.
Dyw’r ddau glwb m’ond wedi ennill pump o’u 25 gêm gynghrair hyd yma, ond y Gwyrdd a’r Duon sydd ar waelod y tabl ar ôl sgorio llai ac ildio mwy na phawb arall (sgorio 22, ildio 59).
Dyw rheolwr newydd y Robiniaid, Callum McKenzie yn bendant heb gael y dylanwad delfrydol ar y garfan gan i’r Drenewydd ennill dim ond dau bwynt allan o’r 30 posib yn y 10 gêm ers ei benodiad ym mis Tachwedd.
Dyw’r Drenewydd m’ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf (Cfon 1-2 Dre), ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Enillodd Y Drenewydd o 4-1 gartref yn erbyn Aberystwyth ar benwythnos ago...
Tags, Events, and Projects