facebook pixel
PÊL-DROED BYW: Aberystwyth v Y Seintiau Newydd - C/G 7.45 | Rownd Derfynol Cwpan Nathaniel MG Mae’r Seintiau Newydd yn anelu am y trebl domestig eleni gan eu bod yn agos iawn at sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru. Y Seintiau Newydd yw’r clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Cwpan y Gynghrair (Cwpan Nathaniel MG) gan iddyn nhw godi’r cwpan ar 10 achlysur gan gynnwys y tymor diwethaf pan enillon nhw o 5-1 yn erbyn Abertawe yn y rownd derfynol. Enillodd y Seintiau’r tlws am bedwar tymor yn olynol rhwng 2014/15 a 2017/18, ac mae cewri Croesoswallt wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth. Mae’n stori dra gwahanol i Aberystwyth gan nad ydyn nhw wedi codi’r gwpan yn y gorffennol a dyma eu hymddangosiad cyntaf erioed yn y rownd derfynol. Cyrhaeddodd Aberystwyth y rownd gynderfynol yn 2019/20 cyn colli o 2-1 yn erbyn STM Sports o’r ail haen, ac ers hynny doedd y Gwyrdd a’r Duon heb fynd ymhellach na’r drydedd rownd tan eleni...

 1.3k

 31

 1.3k

    Suggested Credits
    Tags, Events, and Projects